Cwcis
Caiff ffeiliau bach (a elwir yn ’cwcis’) eu gosod ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth am sut yr ydych yn pori’r wefan.
Defnyddir cwcis i:
- mesur sut yr ydych yn defnyddio’r wefan er mwyn iddi gael ei diweddaru a’i gwella ar sail eich anghenion
- cofio’r hysbysiadau rydych wedi’u gweld er mwyn i chi beidio â’u gweld eto
Ni ddefnyddir cwcis GOV.UK i’ch enwi’n bersonol.
Fel arfer, byddwch yn gweld neges ar y wefan cyn i gwci gael ei storio ar eich cyfrifiadur.
Rhagor o wybodaeth am sut i reoli cwcis (yn agor tab newydd).
Eich dewisiadau cwcis ar gyfer Porth y Llywodraeth
Sut y caiff ein cwcis eu defnyddio
Mesur defnydd o’r wefan (Google Analytics)
Mae meddalwedd Google Analytics yn casglu gwybodaeth am sut yr ydych yn defnyddio’r wefan. Gwneir hyn er mwyn helpu i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr, ac er mwyn helpu i’w gwella.
Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am:
- y tudalennau rydych yn ymweld â nhw – faint o amser rydych yn ei dreulio ar bob tudalen
- sut y gwnaethoch gyrraedd y wefan
- yr hyn yr ydych yn clicio arno wrth ymweld â’r wefan
Nid ydym yn casglu nac yn storio’ch gwybodaeth bersonol (er enghraifft, eich enw neu’ch cyfeiriad), felly nid oes modd defnyddio’r wybodaeth hon i’ch enwi.
Ni chaiff Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddi.
Defnyddir y cwcis canlynol:
Enw | Pwrpas | Yn dod i ben |
---|---|---|
_basga_gid | Mae hyn yn ein helpu i weld sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan | 24 awr |
_basga | Mae hyn yn ein helpu i weld sut yr ydych yn defnyddio GOV.UK er mwyn i ni allu gwella’r wefan | 2 flynedd |
Sesiynau
Caiff cwci ei osod i gofnodi’r gweithgarwch yn ystod eich sesiwn.
Enw | Pwrpas | Yn dod i ben |
---|---|---|
apsc | Yn storio data’r sesiwn | Pan fyddwch yn cau’ch porwr |
wsc | Yn storio data’r sesiwn | Pan fyddwch yn cau’ch porwr |
mfarm | Yn cofio’r ddyfais a’r porwr rydych yn eu defnyddio ac yn dweud wrthym am beidio â gofyn i chi am godau cyrchu | 7 diwrnod |
hcc | Yn storio data’r sesiwn | Pan fyddwch yn cau’ch porwr |
Dewis Iaith
Caiff cwci ei storio er mwyn sicrhau bod y wefan yn dangos y testun yn eich dewis iaith.
Enw | Pwrpas | Yn dod i ben |
---|---|---|
lang | Mae hyn yn cofio p’un a ydych wedi dewis gweld y cynnwys yn Gymraeg neu yn Saesneg | Pan fyddwch yn cau’ch porwr |
Caniatâd ar gyfer cwcis
Byddwch yn gweld baner caniatâd ar gyfer cwcis pan fyddwch yn ymweld am y tro cyntaf. Caiff cwci ei storio fel bod eich cyfrifiadur yn gwybod eich bod wedi’i hateb ac yn gwybod i beidio â gofyn eto.
Enw | Pwrpas | Yn dod i ben |
---|---|---|
aoc | Yn cadw eich dewisiadau o ran caniatâd ar gyfer cwcis | 1 flwyddyn |
Gwasanaethau’r llywodraeth
Caiff y rhan fwyaf o’r gwasanaethau rydym yn cysylltu â nhw eu rhedeg gan wahanol adrannau’r llywodraeth, er enghraifft Cyllid a Thollau EF (CThEF) neu’r Swyddfa Gartref. Mae’n bosibl y bydd y gwasanaethau hyn yn gosod cwcis ychwanegol ac, os felly, bydd ganddynt eu polisi eu hunain ar gwcis.